Grant Darparwyr Gofal Plant– Ffurflen Gais



Eich Manylion Personol



Gwybodaeth am eich busnes



Effaith Covid-19 ar eich busnes

OR



Manylion banc eich busnes

(Cofiwch gynnwys cyfriflen banc y busnes fel tystiolaeth)



Datganiadau

  • Rwy’n cadarnhau bod yr wybodaeth rwyf wedi’i rhoi yn wir ac yn gywir hyd eithaf fy ngwybodaeth
  • Rwy’n cadarnhau fy mod wedi darllen a deall Dogfen Canllawiau’r Grant Darparwyr Gofal Plant
  • Rwy’n cadarnhau bod fy musnes yn gweithredu yng Nghymru
  • Rwy’n cadarnhau y bydd fy musnes yn cyflawni rhwymedigaethau'r cynllun fel sydd wedi cael eu hamlinellu ar y ffurflen gais a’r canllawiau
  • Rwy’n cydnabod y bydd fy awdurdod lleol neu Lywodraeth Cymru yn cynnal unrhyw archwiliadau busnes priodol sydd eu hangen i asesu’r cais ac yn gwirio natur ac effaith y cyllid yn y dyfodol a sut bydd yn cael ei ddefnyddio.
  • Rwy’n cadarnhau y bydd fy musnes mewn perygl o ganlyniad i’r pandemig COVID-19 heb y grant.
  • Os yw’n berthnasol, rwy’n cadarnhau bod datganiadau’r Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws wedi cael eu diweddaru a bod copïau wedi cael eu cyflwyno gyda’r cais
  • Rwy’n cadarnhau nad yw’r busnes wedi derbyn cyllid gan, nac wedi cyflwyno cais llwyddiannus i’r Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig, y Gronfa Cadernid Economaidd, y Grant Ardrethi Busnes, Grant Cychwyn Busnes Llywodraeth Cymru, Cronfa Cadernid y Trydydd Sector (CGGC) na chynllun grant Mudiad Meithrin
  • Rwy’n cadarnhau fy mod wedi darparu’r holl dystiolaeth angenrheidiol i gefnogi fy nghais ar gyfer y Grant Darparwyr Gofal Plant
  • Rwy’n cadarnhau y byddaf yn cofrestru ar gyfer cymorth Busnes Cymru os bydd fy nghais am y Grant Darparwyr Gofal Plant yn llwyddiannus
  • Rwy’n cadarnhau fy mod wedi darllen a deall Datganiad Preifatrwyddy Grant Darparwyr Gofal Plant: https://llyw.cymru/grant-darparwyr-gofal-plant-hysbysiad-preifatrwydd

Os na allwch gadarnhau’r holl ddatganiadau uchod, nid ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun.

Wrth gyflwyno eich cais, cofiwch atodi’r holl dystiolaeth angenrheidiol, gan gynnwys prawf o’ch manylion adnabod, prawf o gyfeiriad y busnes a chyfriflenni banc. Mae rhagor o fanylion ar gael yn y ddogfen ganllawiau.

Mae Llywodraeth Cymru yn cadw'r hawl i adennill arian gan unigolion a busnesau os rhoddwyd gwybodaeth ffug neu os gwelir nad yw’r busnes yn gymwys ar gyfer y cynllun ar ôl cynnal rhagor o archwiliadau. Mae’n bosibl y bydd Llywodraeth Cymru yn cyfeirio unrhyw hawliau twyllodrus ar gyfer ymchwiliad troseddol.