Diddordeb mewn Maethu?

Gall maethu fod yn un o brofiadau mwyaf gwerthfawr bywyd, ond rydyn ni'n deall ei fod yn benderfyniad mawr.

Mae'n siŵr eich bod wedi gweld sawl hysbyseb ar gyfer asiantaethau maethu gwahanol sy'n cynnig rhesymau gwahanol dros faethu.

Efallai nad ydych yn siŵr pa fath o faethu rydych am ei wneud, pa fath o blant rydych am ofalu amdanynt neu a ydych yn gallu fforddio maethu.

Bydd y wefan hon yn eich helpu i benderfynu. Os ydych am gael rhagor o gyngor neu siarad â rhywun am fod yn ofalwr maeth, ffoniwch ni ar 01446 729600, e-bostiwch fostercare@valeofglamorgan.gov.uk, neu llenwch ein ffurflen ar-lein yma.