Cofrestru i siarad mewn Pwyllgor Cynllunio

Sylwch bydd y cyfarfod hwn yn cael ei ffrydio'n fyw a'i recordio at bwrpas archif yn amodol ar unrhyw faterion technegol a brofir ar y diwrnod. Mae hyn yn golygu eich bod yn cael eich recordio yn weledol ac mewn sain ac mae hynny ar gael ar y rhyngrwyd. Gwneir hyn at ddibenion cefnogi a hyrwyddo ymgysylltiad democrataidd a diddordeb y cyhoedd.

Byddwn yn cadw'r data am 6 mlynedd ac yna’n ei gynnig i’r archifydd yn Archifau Morgannwg i’w gadw’n barhaol. Mae gennych yr hawl i wneud cais i gael mynediad at, cywiro, cyfyngu, gwrthwynebu neu ddileu’r data hwn yn unol â Hysbysiad Preifatrwydd y Cyngor.

Y Rheolydd Gwybodaeth yw'r Comisiynydd Gwybodaeth a gellir cysylltu ag ef ar https://ico.org.uk. Gellir cysylltu â’r Swyddog Diogelu Data ar gyfer y Cyngor ar DPO@Valeofglamorgan.gov.uk

Os ydych chi'n dymuno siarad am gais sy'n cael ei drafod mewn Pwyllgor Cynllunio, croeso i chi lenwi'r ffurflen hon a'i hanfon aton ni.

Dylech chi nodi bod y ffurflen hon yn caniatáu i chi gofrestru i drafod un cais sydd ar Agenda'r Pwyllgor Cynllunio perthnasol. Os ydych yn dymuno trafod Cais Cynllunio arall, llenwch ffurflen cofrestri arall os gwelwch yn dda.

Dylid cyflwyno ffurflenni, dim hwyrach na 17:00 dri diwrnod clir cyn ac heb gynnwys diwrnod y cyfarfod. Er enghraifft, os cynhelir y cyfarfod ar ddydd Iau, dylid derbyn ceisiadau i siarad erbyn 17.00 ar y dydd Sul blaenorol.

Os oes gennych ymholiad, neu os oes problem dechnegol yn codi, cysylltwch ag Adran Gwasanaethau Democrataidd a Chraffu ar 01446 709249.

A version of this form is available in English




Nodwch fod angen i siaradwyr cyrchu cyfarfod y Pwyllgor o bell 15 munud cyn cychwyn, a fydd yn caniatáu amser i’r Swyddog Gwasanaethau Democrataidd i gynorthwyo gydag unrhyw anawsterau os oes angen.

N.B. - Os oes mwy nag un unigolyn wedi'i gofrestru i siarad o blaid neu yn erbyn, cânt eu hannog i enwebu un llefarydd. Os ydych yn dymuno i'r Cyngor eich helpu i enwebu llefarydd cyn Cyfarfod y Pwyllgor Cynllunio, nodwch a ydych chi'n rhoi caniatâd i'r Cyngor rannu eich manylion cyswllt (enw, cyfeiriad e-bost, rhif(au) ffôn) â phobl eraill (sydd o'r un farn â chi) sy'n dymuno siarad.
Sylwer: unwaith bydd eich manylion wedi'u rhannu, nid oes gan y Cyngor reolaeth o unrhyw fath dros y modd y cânt eu defnyddio.