Dewiswch yr opsiwn ar y gwymplen isod sy'n cyfateb yn fwyaf addas i'ch ymholiad. Sicrhewch fod cymaint o wybodaeth â phosibl yn cael ei darparu gan y bydd yn galluogi'r tîm i ymdrin â'ch ymholiad yn effeithlon.
Gostyngiad Person Sengl
Mae gan aelwydydd sydd â dim ond oedolyn hawl i ostyngiad person sengl o 25%. Defnyddiwch yr opsiwn hwn os ydych yn dymuno gwneud cais am y gostyngiad neu roi gwybod i ni nad ydych bellach yn gymwys i gael eich gostyngiad.
Eiddo eithriedig
Mae nifer o amgylchiadau lle gall eiddo gael ei eithrio rhag y Dreth Gyngor Gweler this page am restr o eithriadau. Mae rhai eithriadau cyffredin wedi'u cynnwys ar y gwymplen, defnyddiwch yr opsiwn 'Eithriad Arall' os nad yw ar y rhestr
Dosbarth Eithrio N
Mae myfyrwyr llawn amser wedi'u heithrio o'r Dreth Gyngor. Bydd eich sefydliad addysgol (ysgol, coleg neu brifysgol) yn gallu rhoi Tystysgrif Treth Gyngor Myfyrwyr i chi os ydych ar gwrs llawn amser cymwys. Dim ond pan fydd eiddo'n cael ei feddiannu'n gyfan gwbl gan fyfyrwyr y mae'r eithriad hwn ar gael; os oes dau oedolyn a dim ond un sy'n fyfyriwr dyfernir gostyngiad o 25%.
Atodwch eich tystysgrif gan ddefnyddio'r opsiwn 'uwchlwytho dogfen' ar waelod y ffurflen. Byddwn yn cymhwyso'r gostyngiad yn awtomatig ar gyfer y cyfnod a gwmpesir ar y dystysgrif os bydd amgylchiadau'r cartref yn caniatáu hynny.
Eithriad Arall
Os ydych yn teimlo y gallech fod yn gymwys i gael eithriad, rhowch ragor o fanylion isod a byddwn yn anfon y ffurflen gais briodol atoch.
Sylwer y gallai fod angen gwybodaeth ychwanegol ar rai eithriadau. Efallai y byddwn yn cysylltu â chi drwy'r post, drwy e-bost neu dros y ffôn i drafod y cais.
Debyd Uniongyrchol
Y ffordd fwyaf cyffredin o dalu’r Dreth Gyngor yw drwy ddebyd uniongyrchol. Defnyddiwch y ddolen hon i roi eich manylion banc.
Mae 4 dyddiad ar gael ar gyfer taliad debyd uniongyrchol, 1af, 9fed, 18fed a 27ain. Gallwch newid eich dyddiad talu ar yr amod y cawn o leiaf 10 diwrnod gwaith o rybudd cyn bod eich taliad nesaf i’w gasglu.
Mae pob un o'r 4 dyddiad ar gael rhwng mis Ebrill a mis Chwefror, dim ond y 27ain sydd ar gael ym mis Mawrth. Os hoffech newid eich amserlen i opsiwn 12 misol, nodwch hyn isod yn y maes 'gwybodaeth ychwanegol'; sylwer, os byddwch yn dewis 12 mis caiff eich dyddiad talu yn cael ei ddiwygio i'r 27ain.
Rhowch ddigidau cyfatebol eich Rhif Cyfrif Banc
Asiant Gosod / Cymdeithas Tai
Mae'r opsiwn hwn ar gyfer Asiantau Gosod a Chymdeithasau Tai YN UNIG. Ni fydd cyflwyniadau nad ydynt gan asiant neu gymdeithas dai yn cael eu prosesu.